-
Hide blocks
- Full screen
- Standard view
This page in English / Y dudalen hon yn Saesneg
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth, neu chwiliwch yn lleol am hyfforddwr gwelliant fan hyn
E-bost - iqt@wales.nhs.uk
Cymuned Q yng Nghymru – digwyddiad Croesawu
Ar 21 Medi, croesawodd 1000 o Fywydau – Gwasanaeth Gwella aelodau newydd o Q i gyfarfod cyntaf y rhwydwaith Q yng Nghymru. Rhoddodd yr ymgeiswyr llwyddiannus o’u hamser i ddod ynghyd i siarad am wella iechyd a gofal yng Nghymru. Dywedodd Dominique Bird, Pennaeth Capasiti a Gallu: “Roedd yn braf gweld gymaint o bobl sy’n frwdfrydig dros wella ansawdd ac yn awyddus i ddod at ei gilydd i greu rhwydwaith ble y gallant ddysgu oddi wrth ei gilydd a rhannu gwybodaeth â’i gilydd gan wella canlyniadau i gleifion yn y pen draw”.
Clywodd y cynrychiolwyr araith lawn gan Mr Kamal Asaad o Fwrdd Iechyd Cwm Taf ar Greu Diwylliant o Welliant Parhaus a siaradodd yr Athro Christian Van Nieuwerburgh o Brifysgol Dwyrain Llundain ar Hyfforddi a Seicoleg Gadarnhaol. Roedd gweithdai ar yr agenda hefyd gan gynnwys: Gofal sy’n seiliedig ar Werthoedd, y rhaglen Hunanreoli Genedlaethol a Ble Mae Gwella Ansawdd a Modelu yn Dod Ynghyd.
Diolchodd Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr, GIG Cymru, a oedd yn siarad yn y digwyddiad, i’r aelodau am eu hymrwymiad i wella ansawdd, ac mae’n edrych ymlaen at eistedd â hwy mewn sesiynau yn y dyfodol er mwyn dysgu ochr yn ochr â hwy.
Roedd y diwrnod yn gyfle i gynrychiolwyr drafod manteision cyffredin a mynd i’r afael ag unrhyw broblemau y maent yn eu hwynebu ar eu taith gwella ansawdd. Roedd modd i aelodau greu cysylltiadau gwerthfawr a dysgu o brofiadau ei gilydd.
Er mwyn dod yn aelod o Q, dylech gadw eich llygaid ar agor am yr ail gam recriwtio yng Nghymru yn ystod Gwanwyn 2018. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yma.